Skip to main content

Nawdd i Glwb Criced Bwcle

Dyddiad

YC YC

Mae grŵp chwaraeon lleol yn Sir y Fflint yn defnyddio arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr i greu amgylchedd mwy dymunol yn eu pencadlys. Mae Clwb Criced Bwcle, a ffurfiwyd yn 1898 wedi llwyddo i gael arian gan Eich Cymuned Eich Dewis ac ar 20 Mawrth, aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin draw atynt i drafod cynlluniau’r clwb i weld sut mae’r grant yn gwneud gwahaniaeth i chwaraewyr.

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu cefnogi prosiectau ar lawr gwlad ar draws y gogledd gyda chymorth Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT), Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol o arian sydd wedi ei atafaelu gan y llysoedd drwy ddeddf enillion troseddau, gyda’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. 

Nod Clwb Criced Bwcle (BCC) yw bod y clwb criced mwyaf agored, diogel a chynhwysol yng Ngogledd Cymru. Gyda hyn mewn golwg maent yn cyrraedd grwpiau na fyddai fel arall wedi meddwl am chwarae criced, ac na fyddai wedi gallu teimlo eu bod yn gallu. Mae’r clwb yn teimlo’n gryf ynglŷn â hyn gan bod chwaraeon yn helpu lles yn gorfforol ac yn emosiynol ac yn creu teimlad o gymuned.  Grŵp targed cyntaf y clwb oedd merched a genethod gan eu bod yn cael eu tangynrychioli yn hanesyddol ac erbyn hyn mae ganddynt 50 merch yn aelod. Maent hefyd yn ceisio denu chwaraewyr o ddiwylliannau amrywiol ac o gefndiroedd ieithyddol hefyd.

Mae’r clwb yn cydnabod er mwyn cyflawni eu hamcanion mae angen buddsoddi sylweddol yn eu hadnoddau i’w wneud yn le mwy hygyrch a chroesawgar i bawb. Bydd y grant felly yn cael ei ddefnyddio i osod goleuadau diogelwch drwy’r maes parcio ac ar y patio yn y clwb gyda’r nod o wneud merched, genethod a phobl ifanc deimlo’n ddiogel i ddod i’r clwb drwy’r maes parcio a oedd cyn hynny yn le tywyll heb olau.

Dywedodd X o Glwb Criced Bwcle: “Rydym yn teimlo’n gryf ein bod ni’n annog pobl i ymgysylltu mewn chwaraeon a theimlo’n rhan o gymuned lle gallwn helpu cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd a chymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n llesol i’w iechyd corfforol a’u hiechyd meddwl. Rydym yn gobeithio drwy wella y golau y tu allan, bydd chwaraewyr yn teimlo’n ddiogel ac y gallwn barhau i ddenu aelodau o bob man a bod yn glwb mor groesawgar â phosib i bawb.

“Roedd hi’n bleser i groesawu ein hymwelwyr i’r clwb ac i ddangos iddynt sut mae ein prosiectau yn symud ymlaen diolch i’r arian gan Eich Cymuned, Eich Dewis.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Dw i wedi gwirioni gan y croeso wnes i gael gan aelodau Clwb Criced Bwcle, sy’n gweithio mor galed yn gwasanaethu eu cymunedau ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae fy nghynllun ar gyfer ymladd troseddau yng Ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar gael cymdogaethau diogel a chymunedau sy’n cefnogi ei gilydd ac mae BCC a’u prosiect i wella diogelwch yn y clwb ac ehangu aelodau yn enghraifft wych o’r amcanion hyn.”

Dywedodd cadeirydd PACT: “Mae bob amser yn bleser i Eich Cymuned Eich Dewis allu helpu unrhyw sefydliad sy’n adnabod angen, sy’n gwneud cynllun ac sydd yn penderfynu gwneud rhywbeth am y peth a helpu’r gymuned ehangach. Mae Clwb Criced Bwcle yn cydnabod pwysigrwydd ehangu cyfleoedd pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn enwedig mewn grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac mae’n wych ein bod ni’n gallu eu cynorthwyo yn eu cynlluniau gan ddefnyddio arian sydd wedi ei gymryd oddi wrth droseddwyr.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop: “Mae clybiau chwaraeon yn aml yn chwilio am arian ychwanegol. Dyna pam mae’n gymaint o bleser gallu helpu Clwb Criced Bwcle gyda grant ar gyfer goleuo eu clwb. Nid yn unig bydd yn darparu mwy o ddiogelwch i aelodau sy’n cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi, ond hefyd bydd yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau troseddol eraill yn yr ardal.”

Dros yr un mlynedd ar ddeg ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis mae bron i £600,000 wedi cael ei roi i bron i 200 o brosiectau yn gweithio i leihau troseddau yn eu cymdogaethau ac hefyd yn cefnogi blaenoriaethau yng Nghynllun Trosedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

 l ddysgu mwy am PACT ewch i: www.pactnorthwales.co.uk I gael mwy o wybodaeth am Glwb Criced Bwcle, ewch i: www.buckleywales.play-cricket.com/home