Skip to main content

Llwyddiant Cronfa Gymunedol yn fendith i Glwb Pêl Droed Seintiau Bangor

Dyddiad

Ar ddydd Mercher Mawrth 13, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â Chlwb Pêl Droed Seintiau Bangor, yn Canolfan Hamdden Byw’n Iach ar Ffordd Garth Bangor, i gael blas ar eu gwaith effeithiol efo bobl ifanc lleol, ac i ddysgu sut mae’r arian a’i gymerwyd gan droseddwyr yn helpu i gefnogi gwaith y tîm yn y gymuned leol.

Roedd Seintiau Bangor yn llwyddiannus yn cael arian o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis , sy’n helpu i gefnogi prosiectau llawr gwlad ledled Gogledd Cymru, sydd efo cefnogaeth PACT, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a Heddlu Gogledd Cymru. Daw’r arian i Eich Cymuned, Eich Dewis o arian wedi’i atafael drwy’r llysoedd drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, efo’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth y Comisiynydd, yng nghwmni SCCH Heddlu Gogledd Cymru David Griffiths ac Uchel Siryf Gwynedd Janet Phillips, gyfarfod efo Cydlynydd Hyfforddiant Seintiau Bangor, Daf Roberts. Cyflwynwyd nhw i chwaraewyr y clwb, ac amlinellodd Daf sut fuasai’r rhodd o arian yn gwella’i gallu i ddarparu i blant ifanc yr ardal, fel yr angen am oleuo gwell, er mwyn galluogi hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn.

Mae Seintiau Bangor ar gyfer plant o oed 7 hyd at 17, ac mae bron at gant o chwaraewyr ar ei restrau. Mae’r clwb yn dal sesiynau hyfforddi yn ystod y misoedd gaeafol, ond mae nhw wedi cael problemau yn goleuo’r cae yn ystod y nosweithiau tywyll. Golygai’r clwb roi’r arian oddi wrth Eich Cymuned, Eich Dewis tuag at eu prosiect, “Lights on for Footie”, sy’n galluogi’r clwb i brynu llifoleuadau symudol, sy’n caniatáu i’r sesiynau hyfforddi redeg drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Cydlynydd Hyfforddi Seintiau Bangor, Daf Roberts: “Efo’r rhodd hael yma, fe allwn redeg ein sesiynau hyfforddi drwy gydol y gaeaf i’n 4 tîm bach, efo cyfleusterau mewnol a 3G. Allai’r timau hŷn barhau efo’n llifoleuadau symudol yn Nghlwb Rygbi Bangor.

“Fe alluogai’r arian yma i ni adnewyddu ein goleuadau, i sicrhau bod ein tîm Dan 17 yn medru eu defnyddio ar ôl i’n tîm Dan 13 hyfforddi. Fe allwn hefyd gynnig sesiwn ffitrwydd ychwanegol gyda’r nos, i’n timau hŷn, sy’n rhywbeth oeddem eisiau ei wneud ers cryn dipyn o amser. Am hyn, ‘rydym ym ddiolchgar iawn.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “Dwi’n falch iawn o fedru rhoi’r rhodd ariannol yma i Seintiau Bangor er mwyn iddynt oleuo eu cyfleusterau hyfforddiant.

“Mae rhoi agoriadau positif a chynnig hobïau i bobl ifanc yn ffordd allweddol o’u troi oddi wrth gweithredoedd fel ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Drwy gael lle i chwarae pêl droed, i fod yn ran o dîm, ac i fod yn fywiog yn ystod y nosweithiau yn rhoi dewis iach yn lle ymhél â throsedd.

“Mae’r ffactorau yma yn gweld prosiect Seintiau Bangor yn cydfynd â canolbwynt fy Nghynllun Heddlu a Throsedd i gefnogi cymunedau lleol, ac i ymestyn llaw i bobl ifanc fregus. ‘Dwi’n falch iawn ein bod wedi medru cefnogi’r clwb a phobl ifanc y gymuned.”

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “’Rydym yn falch i gefnogi Seintiau Bangor efo’r rhodd ariannol am gyfarpar goleuo newydd. Fe alluogai’r arian i’r clwb ddarparu rhagor o gyfleodd i’r bobl ifanc leol.

“Credwn yn gryf fod buddsoddi mewn prosiectau fel hyn yn cyfoethogi bywydau bobl ifanc, ac yn darparu dyfodol fwy bositif iddynt. Mae’n fraint medru cyfrannu tuag at gwaith mor werthfawr.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Chris Allsop: “Fydd y buddsoddiad yn gweithio tuag at rhwystro ymddygiad gwrth-gymdeithasol a throsedd ieuenctid yng nghymuned Bangor. Mae cadw plant a phobl ifanc yn brysur efo gweithgareddau positif fel chwaraeon yn ystod y nosweithiau yn rhoi agoriad ymarferol iddynt, ac yn eu hannog i ffwrdd o greu helynt ar y strydoedd.”

“Mae mentrau fel hyn yn rhoi cyfleodd iach yn allweddol i leihau trosedd ac i adeiladu cymunedau cryfach. Fel heddlu, ‘rydym yn gwbl gefnogol o fuddsoddi mewn ymdrechion sy’n gweithio tuag at y nod hwnnw.”

Dros yr un-ar-ddeg mlynedd ers i Eich Cymuned, Eich Dewis gychwyn, mae bron at £600,000 wedi ei roddi i bron i 200 o brosiectau sy’n gweithio tuag at leihau trosedd yn ein cymdogaethau, ac hefyd i gefnogi’r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

 I ddysgu mwy am PACT, ewch i: www.pactnorthwales.co.uk

I ddarganfod mwy am Seintiau Bangor, ymwelwch â: